Mae ‘Gwŷl Hwyl a Halibalŵ’ yn cael ei chynnal yn Llundain ddydd Sadwrn, gydag elw’n mynd tuag at helpu tri chylch meithrin yn y ddinas i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn dilyn llwyddiant yr wŷl y llynedd, mae Canolfan Cymry Llundain wedi trefnu llu o weithgareddau ar gyfer y diwrnod gan gynnwys sioeau a stondinau a fydd yn gwerthu cynnyrch Cymreig lleol.
Cyflwynwyr rhaglen Cyw, S4C a’r cymeriad Ben Dant fydd yn cynnal y sioeau. Fe fydden nhw’n canu, dawnsio ac yn darllen straeon i blant o gylchoedd chwarae Cwtsh, Dreigiau Bach a Miri Mawr rhwng 10:30 y bore a 12:30 y pnawn.
‘Dod i adnabod cynulleidfa newydd’
Yn ôl Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis mae’r wŷl yn “gyfle i ddod i adnabod cynulleidfa Gymraeg Llundain yn well ac i godi ymwybyddiaeth am y Sianel a’i rhaglenni tu hwnt i Gymru.”
“Roedd Gŵyl Hwyl a Halibalŵ Canolfan Cymry Llundain yn llwyddiant ysgubol llynedd ac rydym yn hynod o falch bod criw’r Ganolfan wedi penderfynu cynnal yr ŵyl eto eleni,” meddai.