Mae’r cwmni teledu Rondo wedi gwerthu eu cyfres deledu ‘The Indian Doctor’ i nifer o wledydd ar draws y byd.
Mae’r ddrama gomedi ar BBC1, sy’n adrodd hanes doctor o India yn dod i weithio mewn cymuned Gymraeg yn y 1960au, wedi gwerthu i Wlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Bwlgaria, Romania a Croatia yn ogystal ag i Affrica, India a’r Dwyrain Canol.
Mae’r gyfres, sy’n cael ei ffilmio yng Nghymru, wedi cychwyn ei thrydedd gyfres erbyn hyn gyda Sanjeev Bhaskar yn chwarae’r brif ran.
Cydnabyddiaeth
Dywedodd prif weithredwr Rondo, Gareth Williams, sydd yng ngŵyl ffilmiau Mipcom yn Cannes ar hyn o bryd i hyrwyddo mwy o raglenni Rondo: “Mae’r ffaith fod y rhaglen wedi ei gwerthu i wledydd ar draws y byd ac am gael ei gweld gan filiynau yn rhywbeth yr ydym yn ymfalchïo ynddo.
“Cafodd y rhaglen ei chydnabod gan gydweithwyr o’r diwydiant yn y BAFTA Cymreig yr wythnos diwethaf, ac mae hi’n hyfryd bod pwysigrwydd y diwydiant creadigol Cymreig yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol hefyd.”
Mae cwmni Rondo wedi ei leoli yng Nghaerdydd, Caernarfon a Phorthaethwy.