Mae dynes lollipop, wnaeth neidio o flaen car oedd allan o reolaeth er mwyn achub grŵp o blant, wedi ei gwobrwyo am ei dewrder mewn seremoni  flynyddol sy’n dathlu arwyr Prydain.

Derbyniodd  Karin Williams, 50 oed, o’r Rhws, Bro Morgannwg, ei  gwobr yn ystod seremoni Pride of Britain fydd yn cael ei darlledu ar ITV heno.

“Dwi ddim yn ddewr, roeddwn yn gwneud fy swydd ac fe wnes i ymateb yn reddfol,” meddai Karin Williams.

“Rwy’n cofio sefyll ar y pafin gyda’r plant ac eiliad yn ddiweddarach roeddwn ar y llawr gyda pharafeddygon yn dweud wrtha’i am beidio symud,” meddai.

Cafodd Karin Williams ei chludo i’r ysbyty lle cafodd driniaeth lawfeddygol ar ei phengliniau, coesau, penelin ac ysgwydd.

Cyflwynwyd y wobr i Karin Williams gan yr actor James Corden yn ystod y seremoni yn Llundain lle cyflwynwyd gwobrwyon hefyd i deuluoedd trychineb Hillsborough a Malala Yousafzai, y ferch 16 oed o Bacistan a gafodd ei saethu yn ei phen gan y Taliban am frwydro dros addysg i ferched.

Bydd Pride of Britain yn cael ei darlledu ar ITV am 8yh heno.