Cerys Matthews
Bydd rhaglen radio Cerys Matthews yn cael ei ymestyn fel rhan o newidiadau i amserlen Radio 6 Music y BBC.

Fe fydd rhaglen y gantores o Gymru ar fore Sul, sydd yn dechrau am 10yb, bellach yn parhau am dair awr yn hytrach na dwy.

Enillodd cyn brif leisydd y grŵp Catatonia wobr darlledydd cerddoriaeth y flwyddyn yng Ngwobrwyon Academi Radio Sony eleni.

Newidiadau eraill

Mewn newidiadau eraill ar yr orsaf mae Edith Bowman wedi colli’i slot bore dydd Sadwrn, sydd wedi mynd i Huey Morgan o Fun Lovin’ Criminals.

Bydd rhaglen ‘Finest Hour’ Guy Garvey, prif ganwr Elbow, yn symud o 10yh i 2yh, gyda rhaglen DJ Don Letts oedd gynt am hanner nos yn cymryd y slot 10yh.

Mae Cerys Matthews wedi bod yn gyflwynydd ar Radio 6 Music y BBC ers 2008, ac mae wedi parhau i ryddhau cerddoriaeth ers i Catatonia ddod i ben yn 2001.