Gareth Bonello - The Gentle Good
Anaml iawn y gwnewch chi ddod ar draws albwm newydd sydd yn cyfuno cerddoriaeth werin Gymreig a Tsieineaidd.
Ond dyna’n union beth mae Gareth Bonello o The Gentle Good wedi’i wneud gyda’i albwm diweddaraf, Y Bardd Anfarwol.
Mae’r albwm, sydd wedi cael ei ryddhau gyda Bubblewrap Collective, ar gael o heddiw ymlaen.
Treuliodd Gareth saith wythnos yn Chengdu yn nhalaith Sichuan, Tsieina, nol yn 2011 ar gyfnod preswyl artistig gyda Theatr Celfyddydau Perfformio Gysylltiedig Chengdu, fel rhan o brosiect a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig a PRSF.
Defnyddiodd Gareth y profiad i archwilio llenyddiaeth a cherddoriaeth Tsieina, ac i gydweithio â cherddorion traddodiadol lleol, gyda’r gwaith yn dwyn ffrwyth yn yr albwm newydd.
Dylanwadau amrywiol
Fe gydweithiodd Gareth â’r cyfansoddwr Seb Goldfinch, Pedwarawd Llinynnol Mavron ac aelodau o Ensemble Tsieineaidd y DU i recordio’r albwm.
Yn ogystal â hynny ceir lleisiau Lisa Jên, a Richard James o Gorky’s Zygotic Mynci ar yr albwm, a Laura J Martin ar y ffliwt.
“Y nod o’r dechrau oedd ceisio creu cyfnewidiad rhwng cerddoriaeth China a Chymru,” meddai Gareth wrth Golwg360. “Ac mae’r albwm yn gymysgedd o tua hanner a hanner o’r ddau.
“Roedd pawb yno’n disgwyl gan mod i o Brydain y bydden i’n canu’n Saesneg, felly roedd hi’n bwysig gallu dangos bod y Gymraeg yn wahanol.”
Mae rhai o’r cerddorion y cydweithiodd Gareth a hwy yn Chengdu hefyd ar yr albwm yn chwarae offerynnau traddodiadol Tsieineaidd, gan gynnwys Neshi Huang Wei Zhi ar yr Erhu (rhyw fath o ffidl), Jiang Qiang ar y Guzeng (tebyg i delyn), Sun Xian Chu ar y Xiao (math o ffliwt bambŵ), a Zhou Yuan Lin ar y Pipa (liwt).
Mae rhywfaint o sgwrs tafodiaith Sichuan i’w chlywed ar yr albwm hefyd, ond dywedodd Gareth nad oedd wedi mentro canu mewn Mandarin ei hun.
“Fe wnes i roi cynnig ar gân bop mewn Mandarin pan oeddwn i allan yno, ond dyw hi ddim ar yr albwm gan mai cerddoriaeth werin oedd y pwyslais,” meddai.
Adrodd stori Li Bai
Mae’r albwm yn adrodd hanes Li Bai, bardd enwog o Tsieina o’r deyrnach Tang a adawodd ei gartref i chwilio am ŵr doeth.
Penderfynodd Gareth ddefnyddio’r albwm i adrodd hanes y gŵr ar ôl iddo ddod ar ei draws wrth astudio llenyddiaeth Tsieineaidd.
Mae’n adrodd hanes y gŵr wrth iddo deithio ar hyd afonydd enwog Tsieina yn chwilio am noddwr ymysg cyrtiau cyfoethog y wlad, ac ymdrin â’r golled y mae’n ei theimlo wrth orfod gadael ei wraig a’i blant ar ôl.
“Mae’r gwrandäwr yn yfed gyda’r bardd dan gawod o flodau eirin gwlanog ac yn rhannu yn ei syndod ar brydferthwch y lleuad, thema sy’n ymddangos yn aml yn ei farddoniaeth,” esboniodd Gareth. “Os yw’r bardd yn newydd i chi gobeithiaf y bydd yr albwm yn eich annog i chwilio am ei waith.”
Mae’r daith yn cynnwys dilyn Li Bai wrth iddo grwydro’r mynyddoedd, ei yrfa drychinebus fel cynghorydd rhyfela, ei alltudiaeth a thaith i gyrion Tsieina hynafol, a’i farwolaeth wrth iddo foddi mewn ymgais i gofleidio adlewyrchiad y lleuad yn y dŵr.
Profiad anghyfarwydd
Roedd y profiad o fynd draw yno i wneud ei waith ymchwil yn un ôl hollol newydd i Gareth ar y pryd.
“Doeddwn i ddim yn gyfarwydd iawn â Tsieina gynt, dim ond beth oeddwn i’n ei weld ar y newyddion,” meddai Gareth. “Roeddwn i ‘di clywed ychydig o gerddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd o’r blaen, ond roedd hyd yn oed hwnnw’n brofiad newydd i mi.
“Un o’r sialensiau cyntaf oedd ceisio deall sut oedd y gerddoriaeth yn cael ei strwythuro,” meddai. “Mae cordiau mewn caneuon gorllewinol yn tueddu i fod yn rhai eitha’ hawdd, ond mewn cerddoriaeth Tsieineaidd mae’r alaw yn llawer mwy pwysig, felly weithiau doedd y cordiau roeddwn i’n trio ddim cweit yn ffitio.
“Mae ‘na dipyn o wahaniaethau rhwng cerdd gwerin y ddwy wlad,” esboniodd Gareth. “Mae cerddoriaeth Tsieina’n fwy offerynnol, ac maen nhw’n eu defnyddio i greu effeithiau sŵn fel dŵr ac adar, tra bod lleisiau a stori’n fwy amlwg mewn cerdd gwerin Cymraeg.
“Ond mae ‘na lawer o themâu tebyg fel cariad a hiraeth, ac mae teimlad y gerddoriaeth werin hefyd yn eitha’ tebyg.”
Deuddeg trac sydd ar yr albwm, ac mae modd ei brynu oddi wrth wefan Bubblewrap Collective neu gellir gwrando ar SoundCloud y label. Mae argraffiad cyfyngedig o Feinyl 12” hefyd ar gael.