John Griffiths o'r Llwybr Llaethog
Mae rhyddhau eu halbwm newydd ‘Dub Cymraeg/Welsh Dub’ nid yn unig yn gam pwysig i gerddoriaeth Gymreig ond i Gymru fel cenedl, yn ôl John Griffiths o’r grŵp Llwybr Llaethog.

Yn ôl y band dyma’r albwm gyntaf o gerddoriaeth ‘dub’ Cymreig i gael ei rhyddhau, gyda John a’i gyd-aelod Kevs Ford yn rhoi gwedd newydd ar eu cerddoriaeth ‘reggae’.

“Mae’r albym yma’n rhywbeth dwi wedi eisiau rhyddhau ers oesoedd,” meddai John wrth Golwg360. “Mae’n ddatganiad i’r byd fod Cymru’n tyfu fyny.”

14 o draciau sydd ar yr albwm, a gellir clywed rhai o gantorion amlycaf Cymru arni gan gynnwys Geraint Jarman a Gwenno Saunders o’r Pippettes.

Mae’r grŵp wedi bod yn perfformio a recordio ers 1985, a hon fydd eu 11eg albwm a’u chweched o dan eu label Neud Dim Deud.

Dros y blynyddoedd mae’r grŵp wedi gweithio gyda llu o artistiaid enwog o Gymru, ac mae’u gwobrau’n cynnwys Cân y Flwyddyn gan Selar yn 2011 a gwobr Cyfraniad Oes C2 yn 2012.

Miriam Elin Jones sydd wedi bod yn adolygu’r albwm i Golwg360 – gallwch ddarllen ei sylwadau yma: http://www.golwg360.com/blog