Chloe Angharad-Bradshaw
Y ffliwtydd, Chloe Angharad-Bradshaw, yw enillydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2013 eleni.

Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000, i Chloe Angharad-Bradshaw yn y noson yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Daeth Chloe, sydd yn wreiddiol o Hengoed, Cwm Rhymni ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni i’r brig wedi iddi swyno’r pedwar beirniaid, Cefin Roberts, Cliff Jones, Eirian Owen a Rhys Taylor.

Mae Chloe ym Mhrifysgol Rhydychen yn astudio Cerddoriaeth a hi yw Llywydd Cymdeithas Gerdd y Brifysgol.  Mae’n aelod blaenllaw o gerddorfa a sinfonietta’r Coleg ac ymysg ei llwyddiannau mae ennill y Rhuban Glas offerynnol yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Cerddor Ifanc mwyaf addawol yn Gregynnog.

Meddai Chloe, “Nes i fwynhau perfformio heno yn fawr, er fy mod yn nerfus cyn chwarae fy narn cyntaf.  Mi oedd y cystadleuwyr eraill yn broffesiynol iawn, yn gyfeillgar ac mi oedd perfformio gyda nhw yn brofiad da iawn.”

‘Hwb werthfawr’

Ychwanegodd Aled Siôn Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Cawsom noson wych yng Nghanolfan y Celfyddydau nos Sul, ac mae’r safon a welwyd yn brawf o’r hyn a welwn yn flynyddol ar lwyfan cenedlaethol yr Urdd.

“Rwyf yn hyderus y bydd yr ysgoloriaeth hon yn rhoi hwb werthfawr i yrfa berfformio Chloe ac edrychaf ymlaen at glywed beth fydd ei hanes yn y dyfodol.”

Roedd y pum cystadleuydd arall yn y noson yn cynnwys Gareth Davies o San Clêr ger Caerfyrddin; Dion Davies o Gastell Newydd Emlyn; Trystan Gruffydd o Bontypridd; Steffan Rhys Hughes o Langwyfan ger Dinbych; a Rhodri Prys Jones o Lanfyllin.