Bydd chwech o brif enillwyr Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro eleni yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth heno.
Yn ogystal a’r clod o ennill yr ysgoloriaeth bydd y perfformwir ddaw i’r brig hefyd yn cael gwbor o £4000 i’w ddefnyddio er mwyn datblygu gyrfa.
Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu yn 1999 gan y canwr byd-enwog er mwyn meithrin talent rhai o berfformwyr ifanc gorau Cymru.
Mae’r ysgoloriaeth yn agored i’r rhai ddaeth i’r brig yn y category dan 25 oed.
Y chwech fydd yn cystadlu eleni fydd:
· Chloe Angharad-Bradshaw o Hengoed, Cwm Rhymni – enillydd yr Unawd Offerynnol
· Gareth Davies o San Clêr ger Caerfyrddin – enillydd yr Unawd allan o Sioe Gerdd
· Dion Davies o Gastell Newydd Emlyn – enillydd y Cyflwyniad Theatrig
· Trystan Gruffydd o Bontypridd – enillydd y Ddawns Werin Unigol i fechgyn
· Steffan Rhys Hughes o Langwyfan ger Dinbych – enillydd yr Unawd Cerdd Dant, Llefaru a Cyflwyniad Alaw Werin
· Rhodri Prys Jones o Lanfyllin – enillydd yr Unawd
Meddai Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.”Mae gennym chwech unigolyn hynod yn cystadlu am yr Ysgoloriaeth eleni ac mae eu brwdfrydedd a’u hawydd i ennill yn amlwg.”