Lauryn Hill
Mae’r gantores Lauryn Hill wedi cael ei rhyddhau o garchar, wedi iddi dreulio cyfnod dan glo am beidio â thalu trethi.

Fe blediodd Lauryn Hill yn euog y llynedd am beidio â thalu dros $1.5m (£925,600) o drethi ar ei henillion rhwng 2005 a 2007.

Mae hi wedi treulio tri mis yn y carchar yn Danbury, Connecticut, a than amodau ei phle, fe fydd hi’n treulio tri mis arall yn gaeth i’w chartre’ yn South Orange, New Jersey.