Baner Iran
Mae Iran wedi rhybuddio America na fydd un sgwrs ffôn sydyn rhwng arlywyddion y ddwy wlad yn golygu y bydd cysylltiadau rhwng Tehran a Washington yn cael eu hadfer yn fuan.
Roedd yr Arlywydd Obama a’r Arlywydd Rouhani wedi cael sgwrs chwarter awr am raglen niwcliar Iran tra roedd arlywydd Iran yn teithio adref o faes awyr Tehran ar ddiwedd ei ymweliad â chynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.
Roedd nifer yn protestio ar strydoedd Tehran wrth i’w gonfoi yruu heibio ac fe daflwyd esgidiau at ei gar – arwydd o’r sarhâd mwyaf.
Y Dirprwy Weinidog Tramor, Abbas Araghchi wnaeth y sylwadau diweddaraf sy’n cael eu hystyried yn ymdrech i liniaru pryderon y rhai yn Iran sy’n erbyn gwella’r cysylltiadau diplomyddol rhwng Iran a’r Unol Daleithiau.
Daeth y cysylltiadau yma i ben yn 1979 yn dilyn y Chwyldro Islamaidd yn Iran.