Bydd cynllun i roi cymorth i bobl brynu tai yn Lloegr yn cychwyn yr wythnos nesaf – dri mis ynghynt na’r disgwyl.
Roedd y cynllun i fod i gychwyn ym mis Ionawr ond ar ddiwrnod cyntaf gynhadledd y Ceidwadwyr yn Manceinion, mae David Cameron wedi cyhoeddi y bydd y cymorth ar gael yn Lloegr yr wythnos nesaf.
Yn ôl y cynllun “Cymorth i Brynu” bydd Llywodraeth San Steffan yn ei gwneud hi’n haws i bobl gael blaendal i brynu tŷ gan y bydd y llywodraeth yn gwarantu 15% o’r morgais ac felly yn ei gwneud hi’n haws i fenthycwyr gynnig morgeisi o hyd at 95%.
Angen
Mewn cyfweliad yn y Sun on Sunday mae’r Prif Weinidog David Cameron yn dweud mai rwan mae angen y cynllun.
“Be sy’n fy mhoeni i ydi na fedrwch chi brynu tŷ neu fflat hyd yn oed os yda chi’n gwneud yn oce, efo swydd sydd gan ddyfodol a chyflog da.
“Tydw’i ddim yn barod i fod yn Brif Weinidog ar wlad sy’n rhoi cap ar ddyheadau.”
Mae Llafur wedi wfftio’n syniad. Dywedodd llefarydd y blaid ar faterion ariannol, Ed Balls, y dylid blaenoriaethu buddsoddi er mwyn adeiladu rhagor o dai fforddiadwy.
Y gynhadledd
Bydd nifer o gyhoeddiadau eraill yn ystod y gynhadledd pedwar niwrnod.
Mae’r Cediwadwyr am weld canllawiau i atal cyhoeddi rhybuddiad mewn achosion o drais, dynladdiad, lladrata, camdrin plant yn rhywiol ac achosion difrifol eraill.
Yn ôl y Ceidwadwyr mae’r troseddau yma yn haeddu mwy na ‘slâs ar y garddwrn’.