Heroin
Mae Prif Gwnstabl Heddlu Durham yn dweud y dylid cyfreithloni cyffuriau caled gan fod y rhyfel yn erbyn cyffuriau wedi methu.

Mae Mike Barton hefyd yn awgrymu y dylai’r rhai sy’n gaeth i gyffuriau gael triniaeth a derbyn cyflewnad o gyffuriau fel heroin a cocên trwy’r Gwasanaeth Iechyd.

Mewn erthygl yn yr Observer mae’r Prif Gwnstabl, sy’n blismon ers 34 o flynyddoedd ac yn lefarydd ACPO ar gudd-ymchwil, yn dweud mai dyma’r ffordd orau i dynnu grym oddi wrth gangiau troseddol.

Siarad “o brofiad”

“Tydi bob gang troseddol ddim yn codi arian trwy werthu cyffuriau ond mae’r rhan fwyaf yn gwneud hynny o’m profiad i,” meddai.

“Felly, buasai cynnig ffordd arall o sicrhau cyflenwad i ddefnyddwyr yn torri ar eu cyllid nhw.

“Os y buasai defnyddiwr yn gallu cael cyffuriau trwy’r GIG neu sefydliad cyffelyb yna f’ase ddim rhaid iddo fynd allan i brynu cyffuriau anghyfreithlon.

“Dylid rheoli cyffuriau. Ddylen nhw ddim, wrth gwrs, fod ar gael yn rhwydd.

“Dwi’n credu bod caethiwed i unrhyw beth – cyffuriau, alcohol, gamblo ac yn y blaen – ddim yn beth da, ond mae gwaharddiad llwyr yn rhoi ffrwd gyllid i bobl ddrwg.”

Mae’r Prif Gwnstabl Barton yn dweud bod problem cyffuriau wedi gwaethygu’n arw ers creu Deddf Camdrin Cyffuriau 1971 ac ychwanegodd bod angen rhoi triniaeth i ddefnyddwyr, gofalu amdanyn nhw a thorri cylch caethiwed.

“Tydyn nhw ddim angen eu troi’n droseddwyr,” meddai.