Yr Arlywydd Kenyatta
Fe allai nifer y marwolaethau ddyblu yn ymosodiad terfysgol Kenya, yn ôl rhai ffynonellau.
Y pryder yw fod rhagor o gyrff heb eu ffeindio eto yn y ganolfan siopa lle’r oedd cannoedd o bobol wedi eu dal yn gaeth gan ymosodwyr arfog.
Mae’n glir fod o leia’ 67 o bobol wedi cael eu lladd yno a 175 wedi eu hanafu ond dyw’r gwaith o glirio a diogelu’r ganolfan ddim wedi dod i ben.
Mae gwasanaeth newyddion y Press Association yn dyfynnu swyddogion lleol sy’n dweud y gallai nifer y meirwon ddyblu wrth i hynny ddigwydd.
Diwrnodau o alaru
Fe ddywedodd Arlywydd Kenya, Uhuru Kenyatta, fod y gwarchae bellach wedi dod i ben ond mae peryg o fomiau cudd o hyd.
Fe gafodd llawer o’r ymosodwyr eu lladd yn yr ymladd tros bedwar niwrnod ac, yn ôl yr Arlywydd, mae 11 o bobol wedi cael eu harestio.
Mae wedi cyhoeddi y bydd tri diwrnod o alar trwy’r wlad yn arwydd o barch at y bobol ddiniwed sydd wedi eu lladd.
‘Dim menyw’
Roedd yna chwech o ddinasyddion Prydeinig ymhlith y meirwon ac mae awgrym bod rhai ymhlith yr ymosodwyr hefyd.
Ond yn ôl y garfan sy’n hawlio cyfrifoldeb – Al-Shabab, carfan Foslemaidd o Somalia sy’n gysylltiedig ag Al Qaida – yn dweud nad oedd menyw yn rhan o’r ymosodiad.
Roedd yna amheuaeth fod gwraig o Loegr – gweddw un o fomwyr 7/7 yn Llundain – ymhlith yr arweinwyr.