Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhuddo o wrthod gwrando ar synnwyr cyffredin wrth i ddiffoddwyr tân fynd ar streic am bedair awr heddiw.

Mae’r gwasanaethau brys trwy Gymru wedi rhybuddio na fydd hi’n bosib cynnal y lefelau arferol o gymorth yn ystod y cyfnod hwnnw.

Y disgwyl yw y bydd canran uchel o ddiffoddwyr Cymru’n mynd ar streic yn brotest yn erbyn trefniadau pensiwn newydd a gorfodaeth i weithio yn y rheng flaen nes eu bod yn 60.

Picedwyr

Mae Prif Swyddog Cynorthwyol y gwasanaeth yn Ne Cymru wedi apelio ar i bobol fod yn fwy gofalus nag arfer yn ystod y pedair awr.

Mae disgwyl picedwyr y tu allan i lawer o’r prif orsafoedd tân yng Nghymru ac mae undeb y diffoddwyr, yr FBU, yn dweud mai rhybudd cynta’ yw’r gweithredu heddiw.

Maen nhw’n trafod argymhellion newydd gyda Llywodraeth yr Alban ond yn cyhudddo Llywodraeth Cymru a San Steffan o “fethu â gweld synnwyr”.

Maen nhw’n anhapus oherwydd y byddai’n rhaid i ddiffoddwyr barhau yn y rheng flaen nes bod yn 60 oed ac yn dweud y byddai’n rhaid iddyn nhw dalu mwy at eu pensiwn a chael llai.

“Mae’n wirion disgwyl i ddiffoddwyr tân ymladd tanau ac achub teuluoedd yn eu 50au hwyr: bydd bywydau’r cyhoedd a’r diffoddwyr eu hunain mewn peryg,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr FBU, Matt Wrack.

‘Ymhlith y gorau’

Yn ôl y Llywodraeth yn Llundain, mae’r trefniadau pensiwn newydd ar gyfer diffoddwyr tân ymhlith y gorau yn y sector cyhoeddus.

Yn ôl eu ffigurau nhw, fe fyddai diffoddwr sy’n ennill £29,000 o gyflog yn cael cyfanswm o £26,000 rhwng y pensiwn gwaith a phensiwn y wladwriaeth.