Simon Thomas - dal ati
Fe fydd Plaid Cymru’n parhau i ymgyrchu tros gadw gwasanaeth damweiniau llawn yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli.
Dydyn nhw ddim yn derbyn argymhelliad panel a phenderfyniad y Gweinidog Iechyd i gael uned gyda nyrsus a chefnogaeth meddygon teulu yn hytrach nag adran lawn.
Ond mae un o’r ACau lleol a fu’n ymladd tros gadw gwasanaethau bellach yn dweud ei bod hi’n derbyn y newidiadau.
Y penderfyniadau
Mae’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi derbyn penderfyniad panel arbennig ar ddau bwnc llosg yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn y De-orllewin a’r Canolbarth.
Fe benderfynodd o blaid creu uned gofal dwys well i fabanod yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, gydag unedau mwy lleol yno ac yn ysbytai Llwynhelyg, Hwlffordd, a Bronglais, Aberystwyth.
Fe gytunodd gydag argymhelliad y panel fod uned ddamweiniau dan ofal nyrsus yn ddigon yn Llanelli.
‘Siom’
Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, a’r AC tros y Gorllewin ar Canolbarth, Simon Thomas, wedi addo parhau i amddiffyn y gwasanaethau yn Llaneli.
“Bydd y cyhoeddiad yn siom i bobol Llanelli,” meddai Simon Thomas, gan ddweud y byddai’r newid yn “peri pryder eithriadol” ac yn “ergyd fawr” i bobol Llanelli.
“Byddwn yn dal i ddadlau’r achos o blaid cadw’r gwasanaethau hyn,” meddai. “Credwn ei bod yn bwysig cadw’r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys o dan arweiniad meddygon yn yr ysbyty.
Derbyn
Ar y llaw arall, mae’r AC Llafur rhanbarthol, Joyce Watson, wedi cefnogi’r penderfyniadau.
Mae wedi gofyn am sicrwydd ynghylch trefniadau teithio a gofal rhwng Llwynhelyg a Glangwili ond, fel arall, yn derbyn y ddau argymhelliad.
“Nid pobol gul ydi’r rhai sydd wedi ymladd tros gynnal y gwasanaethau presennol yn yr ysbytai hyn. Os yw’r hyn sy’n cael ei gynnig yn well, fe awn ni amdano,” meddai.
Addewid Mark Drakeford
Yn ôl Mark Drakeford, fe fydd yr un canran o bobol yn cael eu trin yn yr uned newydd yn Llanelli ag yn yr hen un dan ofal meddygon yr ysbyty.
- Mae hynny, meddai, yn golygu y bydd 80% o gleifion damwain a brys yn cael eu trin yno – dim ond tua 400 oedd yn gorfod mynd i ysbytai eraill, meddai.
- Fe fyddai sefydlu dwy lefel o wasanaeth gofal i fabanod newydd yn ateb beirniadaeth y panel nad oedd y gwasanaethau yn yr ardal ar hyn o bryd yn “saff na chynaliadwy”.