Mae’r cwmni ffonau symudol Blackberry wedi cael ei werthu am £2.85 biliwn.

Bydd y cwmni o Ganada sefydlwyd yn 1999, yn trosglwyddo’r awenau i gonsortiwm wedi ei arwain gan Fairfax Financial wedi i’w ffigyrau gwerthu ddisgyn i 2.9% o’r farchnad ffonau symudol, o’i gymharu â 41% yn 2007.

Fe ddatgelodd y cwmni eu bod yn rhagweld colled o £606 miliwn ar ôl i’w ffôn diweddaraf fethu a gwerthu gan arwain at ddiswyddo 4,500 o weithwyr.

Dywedodd Prem Watsa, Prif Weithredwr Fairfax:

“Mae hyn am agor pennod newydd cyffrous i Blackberry, ei gwsmeriaid a’i weithwyr.”