Mae Edwina Hart yn ystyried yr adroddiad
Mae un o reolwyr Sefydliad y Galon yng Nghymru wedi rhybuddio y gall cynlluniau i gwtogi lefelau’r cymorth trethiannol mae nhw’n ei dderbyn gael effaith andwyol ar waith y sector wirfoddol led led Cymru.

Mewn erthygl ar wefan Sefydliad Bevan, dywed Delyth Lloyd, sy’n Reolwr y Wasg a Materion Cyhoeddus Sefydliad y Galon Cymru, bod awgrymiadau mewn adroddiad gomisiynwyd gan Weinidog yr Economi, Edwina Hart yn galw am ostwng lefel y cymorth gaiff ei roi i siopau elusennol a bod hyn yn debygol o achosi problemau dybryd i’r elusennau hynny.

Gallai’r cynlluniau “arwain at golli incwm sylweddol, di-swyddo staff a gweld elusennau yn gorfod cau siopau fydd yn golygu rhagor o siopau gwag ym mhob cwr o Gymru,” meddai.

Roedd yr adroddiad i Edwina Hart yn gwahodd ymateb i’r argymhelllion ac mae y rhan fwyaf yn ôl Ms Lloyd yn dweud eu bod yn poeni am sut y byddan nhw’n effeithio ar elusennau a’u gwasanaethau.

Amlinellodd Ms Lloyd yr effaith posib ar waith Sefydliad y Galon Cymru.

“Bydd y gost ychwanegol o gynnydd yn y dreth fusnes yn golygu na fydd hi’n bosib i gadw rhai siopau ar agor. Bydd hyn yn arwain at gau 10 siop a di-swyddo rhwng 30 a 35 o staff, 8 gyrrwr a cholli 250 cyfle i wirfoddoli,” yn ôl Ms Lloyd.

Dywedodd bod llawer o’r siopau yn wag cyn i’r elusennau eu defnyddio.

Mae’r adroddiad a’r ymatebion dan ystyriaeth gan y Gweinidog.