Y ffordd i draeth Niwbwrch
Mae cwmni o ogledd Cymru, ‘Camu i’r Copa’, yn prysur sefydlu ei hun fel enw mawr ym myd chwaraeon gan ddenu miloedd i Gymru i gystadlu a chefnogi ei digwyddiadau.
Roedd 850 o gystadleuwyr yn nofio, seiclo a rhedeg ar draeth Niwbwrch ddydd Sul yn ras treiathlon ‘Llanc y Tywod’ – yr ail mewn cyfres o dair ras gan y cwmni. Bydd gornest ‘Llanc yr Eira’ yn cael ei gynnal ar benwythnos cyntaf Hydref yng Nghapel Curig.
Dyma’r drydedd flwyddyn i’r ras gael ei chynnal gan dîm Tim Lloyd a Nigel Kendrick – athletwyr sydd wedi cystadlu o gwmpas y byd ac wedi dod a’r profiadau hynny yn ôl i Gymru. Mae’r digwyddiadau bellach yn denu miloedd o bob rhan o Brydain.
Hwb mawr i’r ardal
Ymysg y cystadleuwyr hynny oedd yr Aelod Cynulliad Rhun ap Iorwerth, a oedd yn rhedeg 10km fel aelod o dîm. Dywedodd fod gweld digwyddiad mor llwyddiannus yn “hwb mawr i economi’r ardal.”
Huw Brassington sy’n wreiddiol o Landwrog oedd yn fuddugol yn yr adran ‘sbrint’ lle mae’n rhaid nofio 400m, seiclo 18km, a rhedeg 5km.
“Mae cystadlu mewn digwyddiad mor broffesiynol ac mor agos i adra yn ei gwneud ennill hyd yn oed yn well” meddai’r darlithydd o Goleg Meirion Dwyfor, Dolgellau.
“Roedd y balchder yn amlwg yn y bobol leol wrth iddynt roi o’i hamser i wirfoddoli a helpu i wneud y ras mor llwyddiannus ag oedd hi.”
“Cwmnïau mawr o Loegr sydd fel arfer yn trefnu rasys yng Nghymru ac maen nhw’n cymryd mantais o’n lleoliadau trawiadol ni ac yn mynd ar arian i ffwrdd. Mae cael clywed y safleoedd diweddaraf a’r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg yn braf iawn.”