Bashar Assad
Fe fydd ymdrechion diplomyddion i ddatrys yr argyfwng yn Syria yn parhau heddiw ar ôl i bum aelod allweddol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gwrdd i drafod sut i ddelio gydag arfau cemegol y wlad.
Mae ’na awgrymiadau bod ymdrechion ar y gweill i drefnu trafodaethau heddwch rhwng yr Arlywydd Bashar Assad a’r gwrthryfelwyr sy’n gwrthwynebu ei lywodraeth.
Roedd y pum aelod – Prydain, America, Ffrainc, Rwsia a China – wedi cwrdd i drafod beth i’w gynnwys mewn cynnig newydd a fyddai’n golygu bod Syria yn rhoi’r gorau i’w harfau cemegol ac y byddan nhw’n cael eu dinistrio.