Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau ei bod yn bwrw mlaen gyda chynllun dadleuol i breifateiddio’r Post Brenhinol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable y byddai cyfrannau’n cael eu gwerthu o fewn yr wythnosau nesaf.
Fe fydd aelodau’r cyhoedd hefyd yn gallu gwneud cais am gyfrannau.
Yn ol Vince Cable, mae’n “ddiwrnod pwysig” i’r Post Brenhinol a’r gweithwyr.
Deg y cant i’r gweithwyr
Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd 10% o’r cyfrannau’n cael eu rhoi i 150,000 o weithwyr y Post Brenhinol.
Dywed y Llywodraeth bod yn rhaid gweithredu er mwyn sicrhau dyfodol y cwmni ond mae undebau’n dadlau y gall arwain at gau nifer o swyddfeydd post ac arwain at wasanaeth gwael.
Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) yn ystyried cynnal streic i wrthwynebu’r newidiadau i’w swyddi, cyflogau a phensiynau.