Mae Trinity Mirror, cyhoeddwr papur newydd y Sunday Mirror, wedi dweud bod yr heddlu yn ymchwilio i honiadau o hacio ffonau gan gyn weithwyr y cqwmni.
Dywedodd Trinity Mirror bod Scotland Yard wedi hysbysu ei is-gwmni, MGN Cyf, bod yr ymchwiliad ar y gweill i weld os yw’n atebol am unrhyw ymddygiad anghyfreithlon honedig gan gyn-weithwyr yn y tabloid wythnosol.
Trinity Mirror sydd hefyd yn berchen ar y Western Mail, Daily Post a Wales on Sunday.
Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp: “Mae Trinity Mirror Plc yn nodi bod ei is-gwmni, MGN Limited, cyhoeddwr papurau newydd cenedlaethol y grŵp, wedi cael ei hysbysu gan yr Heddlu Metropolitan eu bod yn ymchwilio i weld os yw MGN yn atebol yn droseddol am ymddygiad anghyfreithlon honedig gan weithwyr blaenorol mewn perthynas â hacio ffonau ar y Sunday Mirror.
“Nid yw’r grŵp yn derbyn drwgweithredu o fewn ei fusnes ac yn cymryd yr honiadau o ddifrif.
“Mae’n rhy fuan i wybod sut y bydd y materion hyn yn datblygu a bydd diweddariadau pellach os oes unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol.”