Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan
Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal pleidlais allweddol heddiw i benderfynu a fydd yn caniatáu ordeinio merched yn esgobion.
Bydd 144 o aelodau bwrdd llywodraethu’r Eglwys yn pleidleisio ar y bil mewn cyfarfod yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae chwe esgob yr Eglwys yng Nghymru wedi cyflwyno’r bil a bydd angen mwyafrif o ddwy ran o dair o bob un “tŷ” y bwrdd llywodraethu, sef esgobion, clerigwyr a lleygwyr. Ond hyd yn oed os yw’r bil yn cael ei basio heddiw, mae’n golygu na fyddai merched yn cael eu hordeinio yn esgobion yn syth, ac y byddai’n rhaid pasio ail fil er mwyn sicrhau darpariaeth i wrthwynebwyr.
Cafodd bil ar ordeinio merched ei drechu o dair pleidlais yn unig ym mis Ebrill 2008.
Dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, fis diwethaf “nad oes rheswm diwinyddol” dros beidio ordeinio merched yn esgobion gan eu bod eisoes yn ordeinio merched yn ddiaconiaid ac offeiriaid.
Ond mae gwrthwynebwyr wedi dweud y byddai’n creu hollt o fewn yr Eglwys petai’r bil yn cael ei basio.