Mae cynnydd yn y galw, heriau’n ymwneud â’r gweithlu a phroblemau gyda llif cleifion drwy ysbytai acíwt wedi rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau gofal heb ei drefnu – sef unrhyw driniaeth frys neu mewn argyfwng – yng Nghymru, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Er bod y blynyddoedd diwethaf wedi gweld dirywiad cyffredinol mewn perfformiad, mae’r ffigurau mwyaf diweddar yn dangos “gwelliannau calonogol y mae angen eu cynnal” medd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: “Er bod yr adroddiad hwn heddiw yn dangos bod y GIG yng Nghymru yn blaenoriaethu gwasanaethau gofal heb ei drefnu, mae ffactorau fel cynnydd yn y galw a heriau’n ymwneud â’r gweithlu yn amlwg wedi rhoi gwasanaethau dan gryn bwysau, ac wedi cyfrannu at anawsterau parhaus o ran cyrraedd targedau perfformiad.”
Mae rhai o’r prif heriau a ddaeth i’r amlwg yn yr adroddiad diwethaf yn 2009 i’w gweld o hyd medd yr Archwilydd.
Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cymru, bod yr adroddiad “yn achosi pryder, am ei fod yn tynnu sylw at y ffaith bod gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn gwaethygu, yn hytrach na gwella” mewn rhai meysydd yn arbennig o ran amseroedd aros i gleifion.
‘Ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau brys’
Dywed yr adroddiad bod problemau gyda llif cleifion drwy’r ysbyty wedi arwain at bwysau sylweddol ar adrannau damweiniau ac achosion brys, sy’n gallu mynd yn orlawn, gyda chleifion yn wynebu oedi hir a cherbydau ambiwlans yn gorfod ciwio y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae’r perfformiad yn erbyn targedau trosglwyddo’r gwasanaeth ambiwlans wedi gwaethygu dros amser ers 2009.
‘Problem recriwtio’
Gall problemau’n ymwneud â’r gweithlu gyfrannu at y pwysau ar wasanaethau gofal heb ei drefnu, medd yr adroddiad. Yn debyg i weddill y DU, mae Cymru wedi cael problemau o ran recriwtio meddygon i weithio ym maes meddygaeth frys. Gall problemau godi hefyd gyda recriwtio a chadw meddygon i weithio yn y gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.
Dewis ‘cymhleth a dryslyd o opsiynau’
Er bod byrddau iechyd wedi dechrau symleiddio’r system gofal iechyd heb ei drefnu, mae’r cyhoedd yn parhau i wynebu ystod gymhleth a dryslyd o opsiynau, medd yr adroddiad. Nod yr ymgyrch Dewis Doeth gan Lywodraeth Cymru yw darbwyllo’r cyhoedd i feddwl yn ofalus cyn mynd i adran achosion brys neu ddeialu 999 ond hyd yma “prin fu ei heffaith o ran helpu pobl i ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion gofal brys.”
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion sy’n cynnwys:
- Dylai Llywodraeth Cymru a chyrff y GIG barhau i fonitro gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn drylwyr er mwyn asesu effaith pwysau sylweddol ar ansawdd a diogelwch y gwasanaethau.
- Dylid cael rhagor o adborth cynhwysfawr gan gleifion ar eu profiadau o ofal heb ei drefnu.
- Dylid gwella’r setiau data a ddefnyddir i ddeall a rheoli’r galw am ofal heb ei drefnu.
- Dylid gwella cyfathrebu â’r cyhoedd i’w helpu i ddewis y gwasanaethau gofal heb ei drefnu gorau ar gyfer eu hanghenion.
- Dylid cynhyrchu amserlen fanwl a cherrig milltir clir ar gyfer gweithredu gwasanaeth 111 yn 2015.
- Dylid sicrhau bod staff adrannau damweiniau ac achosion brys yn meddu ar y sgiliau cywir i ddiwallu anghenion y nifer gynyddol o bobl hŷn sy’n mynd i adran damweiniau ac achosion brys.
‘Pryder’
Dywedodd Darren Millar AC, mewn ymateb i’r adroddiad: “Mae’r adroddiad hwn yn achosi pryder, am ei fod yn tynnu sylw at y ffaith bod gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn gwaethygu, yn hytrach na gwella mewn rhai ardaloedd, yn arbennig o ran amseroedd aros i gleifion.
“Rwy’n croesawu’r ymrwymiad sydd yn y GIG yng Nghymru i ymdrin â’r pwysau a wynebir ganddo oherwydd gwasanaethau gofal heb ei drefnu. Mae’n galonogol gweld bod y data diweddaraf yn dangos rhywfaint o welliant.
“Ond yn amlwg mae angen gwneud rhagor, yn arbennig gan fod rhai o’r prif heriau a nodwyd gan swyddfa Archwilio Cymru yn 2009 yn parhau’n amlwg.
“Mae argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol yn ceisio helpu’r GIG i fynd i’r afael, yn derfynol, â meysydd pryder, fel ymdopi â galw cynyddol ar ei wasanaethau a heriau o ran y gweithlu. Gobeithio y caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu’n llawn, a chyn gynted â phosibl.”