Lindsay Whittle
Mae’r Aelod Cynulliad Lindsay Whittle wedi ei ddewis gan aelodau’r Blaid yng Nghaerffili fel eu hymgeisydd am yr etholaeth yn ystod etholiadau 2016 i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Ar hyn o bryd mae Lindsay Whittle, sy’n gyn arweinydd Cyngor Sir Caerffili, yn cynrychioli  De Ddwyrain Cymru yn y Cynulliad.

‘Braint’

Dywedodd Lindsay Whittle: “Teimlaf ei bod yn fraint o fod wedi cael fy newis gan aelodau’r Blaid i ymladd sedd Caerffili yn 2016. Rydw i’n falch o allu dweud mai dyma le ges i fy ngeni i a dyma le rwy’n perthyn.

“Mae gan ardal Caerffili, fel llawer o rhai eraill ar draws Cymru, ei phroblemau, ond mae’n llawn pobol ryfeddol y byddwn wrth fy modd yn eu cynrychioli ar lefel etholaeth.

Dywedodd Lindsey Whittle hefyd ei fod yn teimlo bod pobl Caerffili yn parhau i fod yn “gandryll” am y sgandal codiad cyflog i arweinwyr cyngor Caerffili.

“Teimlais anogaeth aruthrol gan ymateb pobol Caerffili tuag at Blaid Cymru yn ddiweddar yn ystod isetholiad Penyrheol,” meddai. “Dywedodd llawer wrthyf fod Llafur wedi’u methu nhw a’u bod yn barod i osod eu ffydd yn y Blaid.”

Ychwanegodd Lindsay Whittle: “Fel aelod rhanbarthol byddaf yn parhau i gynrychioli ac i ymgyrchu dros bobol de ddwyrain Cymru hyd at orau fy ngallu tan yr etholiad nesaf. Bydda i ddim yn llaesu dwylo.”