John Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru am roi grant o £240,800 i atgyweirio adeiladau hanesyddol gorau Cymru.

Cyhoeddodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, heddiw y bydd rhai o adeiladau hanesyddol gorau Cymru yn elwa o’r cyllid er mwyn  gwneud gwaith atgyweirio ac adfer hanfodol.

Bydd naw prosiect ar draws y wlad yn cael grantiau yn amrywio o £7,000 i £40,000 ac yn cael eu dyrannu gan Cadw – gwasanaeth hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Adfer adeiladau pwysig

Dywedodd John Griffiths:  “Bydd y grantiau hyn yn sicrhau bod rhai o’n hadeiladau hanesyddol pwysicaf yn cael eu hadfer a’u cynnal er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu eu mwynhau.

“Bydd y cyllid cyfalaf hwn yn golygu bod modd defnyddio sgiliau traddodiadol i ddiogelu dyfodol adeiladau sydd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru a chyfrannu’n sylweddol at adfywio cymunedau.

“Mae prosiectau o’r fath yn cadw ein gorffennol yn fyw, yn rhoi hwb i’r economi leol yn y dyfodol ac yn hollbwysig i werthu Cymru a’i diwylliant i’r byd.”

Ymysg yr adeiladau hanesyddol fydd yn elwa o’r cyllid mae Eglwys Saron, Blaenau Gwent; Yr Hen Gapel, Gwynedd ac Ysgubor Croft, Sir Fynwy, a Cysylog, Maerdy, Conwy.