Gweddillion y ddau dŵr yn Efrog Newydd
Mae teuluoedd y rhai a fu farw yn y trychineb derfysgol waethaf yn yr Unol Daleithiau, wedi dod at ei gilydd i nodi 12 mlynedd ers yr ymosodiadau, mewn seremoni yn Wall Street heddiw.

Bu munud o dawelwch i gofio’r achlysur yn Efrog Newydd am 12:46 – sef yr amser roedd yr awyren gyntaf wedi taro i mewn i Ganolfan Masnach y Byd. Cafodd enwau’r rhai fu farw hefyd eu darllen.

Fe laddwyd bron i 3,000 o bobl pan fu i ddwy awyren hedfan i mewn i’r Twin Towers gan achosi i’r ddau dŵr ddymchwel.

Fe fynychodd yr Arlywydd Obama seremoni yn y Pentagon yn Washington, lle oedd awyren arall wedi taro’r adeilad  yn 2001.