Mae disgwyl i gannoedd o filoedd o bobl ymuno mewn cadwyn ddynol ar draws Catalwnia heddiw i dynnu sylw at yr ymgyrch am annibyniaeth i’r wlad.
Mae heddiw’n ddiwrnod cenedlaethol Catalwnia – La Diada – ac mae cefnogwyr annibyniaeth wedi trefnu cadwyn o bobl a fydd yn ymestyn 250 o filltiroedd gan groesi’r wlad o’r gogledd i’r de ac yn mynd trwy rhai o’r prif ddinasoedd gan gynnwys Barcelona, Girona a Tarragona.
Y cefndir
Mae’r gadwyn wedi cael ei hysbrydoli gan ddigwyddiad tebyg a gynhaliwyd ar 23 Awst, 1989 gyda dwy filiwn o bobl yn ffurfio cadwyn ddynol 670km o hyd aeth drwy Estonia, Latfia a Lithwania yn galw am annibyniaeth o’r Weriniaeth Sofietaidd.
Er i’r digwyddiad hwnnw gael ei gondemnio gan Rwsia ar y pryd, cafodd sylw rhyngwladol a chafodd ei ganmol ar sawl achlysur fel ffordd unigryw a heddychlon i alw am yr hawl am annibyniaeth.
Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia sydd wedi trefnu’r digwyddiad yn dilyn rali a drefnwyd ganddyn nhw’r llynedd pan ddaeth 1.5 miliwn o bobl i ddangos eu cefnogaeth i’r achos.
Yn ôl polau piniwn, mae mwy o blaid annibyniaeth yng Nghatalwnia na sydd yn Yr Alban ac er i Sbaen roi statud o ymreolaeth i Gatalwnia yn 2006 a gafodd ei gefnogi mewn refferendwm – cafodd y cytundeb ei ail-lunio gan lys cyfansoddiadol Sbaen yn 2010.