Y ganolfan newydd ym Mangor
Wrth i ganolfan gelfyddydau Pontio baratoi i agor ei drysau’r flwyddyn nesaf, mae anghydfod wedi bod ynglŷn ag enwi’r theatr newydd.

Theatr Wilbert Lloyd Roberts neu Theatr Bryn Terfel yw’r cynigion ond mae enw arall amlwg angen cael ei ystyried, yn ôl Dafydd Glyn Jones – sef Theatr John Gwilym Jones.

Yn ei flog ‘Glyn Adda’, mae’r ysgolhaig Dafydd Glyn Jones, sy’n gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, wedi galw am enwi theatr newydd ar ôl un o gynhyrchwyr, dramodwyr a beirniad amlycaf Cymru a chyn-fyfyriwr arall o Fangor, gan fethu a deall pam nad yw ei enw wedi cael ei drafod yn barod.

“Oes rhywun wedi meddwl am ‘Theatr John Gwilym Jones’? Ac os naddo, pam?” meddai yn ei flog.

Bydd canolfan celfyddydau Pontio ym Mangor yn agor ar gyn-salfe Theatr Gwynedd y flwyddyn nesaf. Bydd yn cynnal dramâu Cymraeg a Saesneg, comedi, cerddoriaeth glasurol a llawer mwy.

Gormod o ddewis

Mae’r actores Gaynor Morgan Rees ynghyd â llefarydd Cyfeillion Theatr Gwynedd, Ann Jones, yn galw ar y Brifysgol i enwi’r theatr ar ôl sylfaenydd Theatr Gwynedd, Wilbert Lloyd Roberts.

Ond ‘Theatr Bryn Terfel’ yw dewis Cyngor Prifysgol Bangor, sy’n cael ei gymeradwyo gan y Prifathro John Hughes wrth iddo ddweud fod Bryn Terfel yn “enw mawr rhyngwladol yn y Celfyddydau ac eisoes wedi lleisio ei gefnogaeth i Pontio”.

Mae Dafydd Glyn Jones yn holi a  yw hyn yn ddigon i haeddu cael ei enw yn gysylltiedig â’r neuadd.