Michael Le Vell
Mae’r actor Michael Le Vell wedi ei gael yn ddieuog o 12 cyhuddiad o droseddau rhyw gyda phlentyn, gan gynnwys treisio.
Ar risiau Llys y Goron Manceinion, fe ddywedodd seren Coronation Street ei fod “wrth ei fodd” a bod y dyfarniad “yn bwysau oddi ar ei ysgwyddau”.
Roedd bargyfreitiwr yr actor 48 oed wedi mynnu bod honiadau gan eneth ifanc yn ei erbyn yn “anghyson, yn anesboniadwy ac yn anghredadwy”.
‘Dyn ofnus a dieuog’
Yn ôl yr eneth, roedd yr actor wedi ei threisio unwaith pan oedd hi’n dal tedi ond, yn ôl Alisdair Williamson, roedd y ferch wedi cyhuddo dyn “ofnus a dieuog o’r peth mwyaf erchyll”.
Fe gafwyd Michael Le Vell, sy’n action Kevin Webster yn y gyfres sebon, yn ddieuog o bump cyhuddiad o dreisio, tri o ymosod yn rhywiol, dau o weithred rywiol gyda phlentyn a dau o orfodi plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol.
Ac yntau’n dad i ddau o blant, roedd wedi cyfadde’ bod ganddo broblem alcohol a’i fod wedi cael sawl perthynas gyda merched eraill tra oedd yn briod ond roedd wedi mynnu na fyddai fyth yn cam-drin plenty.
Datganiad Michael Le Vell
Ar ddiwedd yr achos wyth niwrnod, fe ddiolchodd Michael Le Vell i’w dîm cyfreithiol, ei deulu ac ITV cynhyrchwyr Coronation Street am eu cefnogaeth.
Fe ddywedodd y byddai’n cymryd gwyliau cyn meddwl am waith eto ac y byddai’n rhaid iddo gael gair gyda’i bennaeth. Roedd wedi ei wahardd o’r gyfres tros gyfnod yr achos llys.
“Efallai yr af i gael diod rwan,” meddai.