Mae BAFTA yng Nghymru  wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer y seremoni wobrwyo Academi Brydeinig Cymru eleni.

Dramâu sy’n arwain yr enwebiadau ar gyfer y seremoni fydd yn cael ei chynnal ar 29 Medi yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Mae’r ddrama deledu Stella, a gynhyrchir gan Tidy Productions ar gyfer Sky 1, wedi derbyn deg enwebiad, gan gynnwys dau enwebiad unigol ar gyfer Ruth Jones am Awdur Gorau ac Actores Gorau.

Mae drama rhwydwaith y BBC, The Indian Doctor, sy’n cael ei gynhyrchu gan Rondo Media, wedi derbyn pum enwebiad.

Mae’r ddrama Sherlock, sy’n cael ei chynhyrchu gan Hartswood Films ar gyfer y BBC, yn derbyn pedwar enwebiad tra bod Alys, a gynhyrchir gan Apollo i S4C yn cael ei enwebu tair gwaith.

Mae 26 o gategorïau i gyd ac maen nhw i gyd yn anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu mewn Ffilm a Theledu yng Nghymru rhwng 1 Ionawr 2012 a 31 Mawrth 2013.

Mae Rhodri Meilir wedi derbyn enwebiad am yr actor gorau am ei berfformiad fel y gyrrwr tacsi Trefor  yn Gwlad yr Astra Gwyn ar S4C ac fe fydd yn mynd yn erbyn Michael Sheen  am ei berfformiad yn y ffilm am Bort Talbot -The Gospel of Us – a Mark Lewis Jones am ei rôl fel hen gariad Ruth Jones yn Stella.

Yn ymuno â Ruth Jones ar y rhestr enwebiadau ar gyfer yr Actores Orau mae Mali Harries am ei pherfformiad fel Megan Evans yn nrama BBC The Indian Doctor a Sara Lloyd-Gregory am ei pherfformiad yn y brif rôl yn Alys ar S4C.

Gwobr Torri Drwodd

Yn y seremoni hefyd bydd Gwobr Torri Drwodd eleni eto sy’n cydnabod rhai sydd wedi dod i’r amlwg gan gael effaith sylweddol ar deledu neu ffilm yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r enwebiadau ar gyfer y wobr hon yn cynnwys yr actor ifanc Justin Davies am ei rôl fel y mab Ben yn Stella, Gwion Lewis am gyflwyno Cymdeithas yr Iaith yn 50 – stori 50 mlynedd gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg; a Meinir Gwilym, am gynhyrchu’r rhaglen ddogfen S4C O’r Galon: Karen.

‘Mwy o geisiadau nag erioed’

Dywed Allison Dowzell, Cyfarwyddwr BAFTA yng Nghymru: “Eleni fe gawsom fwy o geisiadau nag erioed o’r blaen ac yn ôl ein beirniaid roedd safon yr enwebiadau yn arbennig o uchel.

“Rydym yn falch i  fedru dwyn ynghyd y cynrychiolwyr gorau o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru er mwyn i ni gydnabod yr amser, egni, penderfyniad a’r gwaith caled sy’n mynd i mewn i wneud a chynhyrchu cyfryngau creadigol, teledu a rhaglenni ffilm yma.”

Bydd y seremoni ‘n cael ei chyflwyno gan y cyflwynydd teledu Matt Johnson a’r cyflwynydd newyddion Siân Lloyd.

Meddai Siân Lloyd: “Rwy’n falch iawn o gael cyflwyno seremoni Wobrwyo BAFTA Cymru eleni ochr yn ochr â Matt. Mae bob amser yn ddigwyddiad gwych ac, ar ôl gweithio yn y diwydiant cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt am nifer o flynyddoedd, rwyf yn ymwybodol iawn faint mae’r gydnabyddiaeth y mae’n darparu yn ei olygu i’r rhai sy’n gweithio yn y maes.”