Daeth i’r amlwg heddiw bod dynion arfog wedi ymosod ar ddau deulu i’r de Bagdad ddoe gan ladd 16.

Daw’r llofruddiaethau a’r nifer oedd wedi cael eu lladd yn y wlad ddoe i o leiaf 83.

Fe wnaeth y dynion ymosod ar y ddau deulu ychydig cyn hanner nos neithiwr yn nhref Latifiyah cyn gosod bomiau o’u cwmpas. Cafodd chwech o blant, pump o ferched a phump o ddynion eu lladd, tra bod naw o bobl eu hanafu.

Credir bod y teuluoedd wedi cael eu targedu oherwydd eu bod nhw’n deuluoedd Shiite mewn ardal sy’n cynnwys mwyafrif Sunni.

Mae mwy na 4,000 o bobl wedi cael eu lladd yn Irac yn ystod y pum mis diwethaf. Mae hynny’n cynnwys 804 yn y mis diwethaf yn unig yn ôl ffigurau’r Cenhedloedd Unedig a gafodd eu cyhoeddi’n gynharach yr wythnos hon.