Mae sefydliadau busnes yng Nghymru wedi cyfarfod â chynrychiolwyr Llywodraethau Cymru heddiw i drafod datganoli’r dreth stamp i Gymru.
Mae Llywodraeth Prydain yn ymgynghori â byd busnes cyn dod i benderfyniad ar ddatganoli’r dreth ac mae Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr (FMB Cymru) a’r grŵp lobio busnes, CBI Cymru, wedi datgan eu cefnogaeth i ddatganoli’r dreth stamp.
Mae’r CBI a’r FMB Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Comisiwn Silk a Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Jane Hutt, ar y mater. Mae’r ddau sefydliad yn cytuno, os y bydd yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol, y gallai datganoli a diwygio’r dreth fod yn arf effeithiol ar gyfer twf yn yr economi.
Meddai Richard Jenkins, cyfarwyddwr FMB Cymru mai’r y diwydiant tai yng Nghymru yw un o’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio waethaf yn ystod y dirwasgiad ac y byddai datganoli’r dreth â’r “potensial i ychwanegu chwistrell o dŵf i’r farchnad.”
Dywedodd Richard Jenkins: “Ein barn ni yw y dylai’r dreth stamp yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru fel mater o frys ac y dylid cael amserlen glir ar gyfer y broses hon .
Dywedodd Emma Watkins , Cyfarwyddwr CBI Cymru a oedd yn cadeirio’r cyfarfod ym Mharc Cathays heddiw: “Cafodd aelodau’r CBI drafodaeth adeiladol gyda’r Trysorlys a swyddogion Llywodraeth Cymru ar ddatganoli’r ddyletswydd stamp heddiw.
“Mae gan farchnad dai cryfach fanteision i bawb ac mae trefn treth stamp ddiwygiedig, sydd wedi ei deilwra i Gymru, ac yn denu buddsoddiad i Gymru drwy gynyddu gweithgarwch yn y farchnad o fewn ein cyrraedd.
“Er mwyn sicrhau hyder y farchnad a sicrwydd busnes , mae hon yn daith sy’n rhaid i Lywodraeth a busnes ei chymryd gyda’i gilydd.”
Yn gynharach heddiw, roedd prosiect ‘DG: Undeb sy’n newid’ hefyd wedi galw ar Lywodraeth Prydain i ddatganoli’r dreth stamp i Gymru er mwyn gwella atebolrwydd cyllidol y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.