Mae criw’r Human Rights Foundation (HRF) yn America wedi collfarnu Kanye West am nerfformio mewn priodas yn Kazakhstan.

Nos Sadwrn bu’r rapar yn llafarganu ym mhriodas ŵyr Nursultan Nazarbayev, Arlywydd y wlad.

Yn ôl Llywydd HRF mae Kazakhstan yn “ddiffeithwch hawliau dynol” lle y byddai Kanye West a’i debyg yn cael eu taflu i’r carchar am fynegi eu safbwyntiau.

Maen nhw’n cyhuddo Nursultan Nazarbayev o gyfyngu ar hawliau gwleidyddol a sathru ar y cyfryngau.

Nid yw Kanye West wedi ymateb.