Mae cylchgrawn Golwg wedi darganfod bod arian oedd yn cael ei dalu drwy gardiau credud i fynychu Maes B, wedi mynd yn syth i gyfrif banc dynes o’r Bala oedd yn cynnal stondin grefftau ar Faes y Brifwyl.

Roedd y bobol a dalodd gyda cherdyn i fynd i gigs Maes B a gwersylla yn y maes pebyll, wedi cael eu harian yn ôl yn enw Iola Edwards.

Erbyn hyn mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi hawlio’r taliadau gwreiddiol yn ôl, ond nid yw’r rhai gafodd eu heffeithio wedi derbyn unrhyw esboniad swyddogol.

Yn Golwg yr wythnos hon mae Iola Edwards yn dweud fod arian Maes B wedi bod yn mynd i’w chyfrif hi yn ystod wythnos yr Eisteddfod, a hynny ar gam.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod fe gafodd Iola Edwards ar ddeall y byddai’r problemau ariannol yn cael eu datrys o fewn ychydig ddyddiau, ond fis yn ddiweddarach mae hi’n parhau yn y niwl.

Dywedodd y ddynes o’r Bala wrth Golwg iddi gael “llond bol ar yr holl beth” ac mae’n “methu deall sut bod y ffasiwn gamgymeriadau wedi gallu digwydd”.

Doedd neb o’r Eisteddfod Genedlaethol ar gael i wneud sylw ar y mater.

Gwylltio

Un gafodd ei effeithio yw Tomos Wyn, a dalodd £75 i Faes B, cael yr arian yn ôl, cyn gweld yr arian yn mynd o’i gyfrif eto am yr ail dro.

“Mae’r peth wedi fy ngwylltio i,” meddai Tomos Wyn wrth golwg360 ddydd Gwener diwetha’.

“Mae’n amlwg fod fy manylion banc wedi cael eu pasio o gwmpas…os y baswn i wedi cael esboniad fod y pres wedi ei dalu i mi mewn camgymeriad, ac felly’n cael ei drosglwyddo’n ôl, fasa bob dim yn iawn.

“Pe baswn i’n rhedeg busnes, faswn i ddim yn cymryd pres allan heb roi gwybod i’r person.”

Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos o Golwg.