Barack Obama
Mae Barack Obama yn hyderus y bydd yn cael cefnogaeth Cyngres yr Unol Daleithiau i ymyrraeth filwrol yn Syria.

Dywedodd yr Arlywydd ei fod yn barod i ystyried newidiadau ac ychwanegodd ei fod o ddifrif ynglŷn ag ymgynghori â’r Gyngres, cyhyd â bod y penderfyniad yn anfon neges glir i Arlywydd Syria ac yn ei rwystro rhag defnyddio arfau cemegol eto.

Mae Cyngres yr Unol Daleithiau wrthi’n cynnal ei gwrandawiad cyhoeddus cyntaf ynglŷn â’r cynlluniau ar gyfer ymyrraeth filwrol yn Syria, wrth i Barack Obama geisio argyhoeddi’r wlad o’r angen i ymateb i’r defnydd o arfau cemegol.

Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau’n dweud bod ganddyn nhw dystiolaeth mai llywodraeth Assad sydd y tu ôl i’r ymosodiadau cemegol yn y wlad ac yn honni bod  o leiaf 1,429 o bobl wedi eu lladd, gan gynnwys mwy na 400 o blant.

Cefnogaeth

Mae’r Arlywydd eisoes wedi ennill cefnogaeth amodol gan ddau o feirniaid ffyrnica’i bolisi tramor, John McCain a Lindsey Graham.

Maen nhw wedi dweud y byddan nhw’n fwy parod i gefnogi Barack Obama os bydd yr Unol Daleithiau yn ceisio dinistrio gallu llywodraeth Assad i danio arfau cemegol ac yn ymrwymo i roi mwy o gymorth i’r gwrthryfelwyr.

Mae gweinyddiaeth Obama yn dadlau bod yn rhaid i’r Unol Daleithiau ddangos arweinyddiaeth fyd-eang wrth ddial am ddigwyddiad sydd, medden nhw, yn debyg o fod yr enghraifft fwya’ dinistriol o ddefnyddio arfau cemegol yn ystod y 25 mlynedd diwethaf.