Michael Le Vell
Mae merch sy’n honni iddi gael ei threisio gan un o ser Coronation Street, Michael Le Vell, yn gwadu dweud celwydd am y digwyddiad.

Mae Michael Le Vell, 48, sy’n cymryd rhan Kevin Webster yn y gyfres sebon, yn wynebu 12 cyhuddiad i gyd – pum achos o dreisio’r ferch, tri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol a phedwar arall yn ymwneud â gweithgareddau rhywiol gyda phlentyn.

Mae’r actor, sy’n defnyddio ei enw iawn Michael Turner, wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau.

Ddoe, roedd y ferch yn ei dagrau wrth iddi ddweud wrth y rheithgor yn Llys y Goron Manceinion bod yr actor wedi ei threisio wrth iddi afael mewn tedi.

Bu Alisdair Williamson, bargyfreithiwr Le Vell, yn holi’r ferch am ei stori a’i chymhelliad heddiw gan ei chyhuddo o ddweud celwydd.

Fe awgrymodd bod ’na anghysonderau yn yr adroddiad a roddodd i’r heddlu.

Mae’r ferch yn gwadu dweud celwydd gan ddweud ei bod wedi “drysu.”

“Roeddwn i wedi drysu. Achos roedd yr hyn a wnaeth o mor anghywir. Ro’n i mor ifanc,” meddai.

Mae’r actor wedi bod yn y gyfres deledu ers 30 mlynedd.

Mae darlledwyr Corrie, ITV, yn dweud na fydd yn cael ymddangos eto nes y bydd yr achos llys ar ben.