Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi penderfynu cyflwyno gwaharddiad llawn yn erbyn ysmygu yn ei holl safleoedd.

Yn dilyn trafodaeth heddiw, fe alla’i gwaharddiad ddod i rym ar 1 Hydref.

Bydd cleifion sy’n ysmygu yn cael presgripsiwn ar gyfer sgwariau nicotin tra’n aros yn yr ysbyty. Ni fydd sigaréts trydanol yn cael eu caniatáu gan nad oes prawf eu bod yn helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu, yn ôl Dr Sian Griffiths o dîm cyhoeddus y Bwrdd Iechyd.

Mae staff ysbytai eisoes wedi eu gwahardd rhag ysmygu ar safleoedd y bwrdd iechyd, ond roedd cleifion ac ymwelwyr yn cael ysmygu mewn mannau penodedig.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro oedd yr unig fwrdd iechyd yng Nghymru oedd heb gyflwyno gwaharddiad llawn.