Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi gwrthdrawiad difrifol rhwng beiciwr a char ger Yr Wyddgrug y bore yma.

Cafodd yr heddlu a’r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng beic a Peugeot 206 ar yr A5119 yn Sychdyn, Yr Wyddgrug am 8.38 y bore.

Cafodd y beiciwr, sydd yn ei arddegau, anafiadau i’w ben, ei goes a’i ysgwydd ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Maelor yn Wrecsam.

Mae’r Heddlu yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd neu a welodd y digwyddiad i gysylltu â Gorsaf Heddlu’r Wyddgrug drwy ffonio 101.