Ceuffosydd llawn oedd yn gyfrifol am lifogydd mewn stad o dai newydd ger Rhuthun y llynedd, yn ol adroddiad annibynnol.

Cafodd yr adroddiad i’r hyn achosodd y llifogydd ar stad Glasdir yn Rhuthun ei gyhoeddi gan Gyngor Sir Dinbych heddiw.

Daeth yr adroddiad i’r canlyniad mai ceuffosydd llawn oedd yn gyfrifol ond roedd yr ymchwilwyr hefyd wedi darganfod bod y gridiau o amgylch y ceuffosydd wedi eu dylunio’n wael a doedden nhw ddim yn gallu cael eu clirio yn ddiogel mewn argyfwng.

Cafodd tua 122 o dai ar stad Glasdir eu heffeithio gan y llifogydd ym mis Tachwedd 2012.

Roedd adroddiad arall gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn fuan wedi’r digwyddiad hefyd wedi dod i’r casgliad bod nifer o ffactorau wedi arwain at y llifogydd ond mai’r brif ffactor oedd bod y ceuffosydd yn llawn.

Roedd trigolion y stad wedi dweud eu bod wedi cael addewid mai unwaith o fewn mil o flynyddoedd y byddai llifogydd yn digwydd ar y safle.