Pencadlys Nokia yn y Ffindir
Mae cwmni meddalwedd mwya’r byd, Microsoft wedi cyhoeddi ei fod am brynu cwmni ffonau symudol Nokia mewn cytundeb gwerth £4.6 biliwn.

Bydd y cwmni technoleg yn prynu adran ffonau symudol Nokia. Mae’n golygu y bydd 32,000 o staff Nokia yn gweithio i Microsoft o ddechrau 2014. Gobaith Microsoft yw ehangu ei chyfran yn y farchnad ffonau symudol er mwyn cystadlu gydag enwau fel Apple a Samsung.

Dywedodd rheolwr Microsoft, Steve Ballmer, fod y cynllun yn “gam amlwg i’r dyfodol” a bydd gweithwyr a defnyddwyr y ddau gwmni yn elwa.

Cwmni Nokia o’r Ffindir oedd y gwerthwyr ffonau symudol mwyaf ar un adeg ac fe fu i’r ddau gwmni weithio â’i gilydd am y tro cyntaf yn 2011, i greu’r ffôn symudol Lumia.

“Bydd ymuno’r ddau gwmni yma yn hybu elw Microsoft ac yn cryfhau cyfleodd cyffredinol y cwmni a’i bartneriaid,” meddai Steve Ballmer.