Bydd angladd dynes a gafodd ei saethu’n farw yng Nghasnewydd yn cael ei gynnal heddiw.
Bydd angladd Caroline Parry, 46, yn cael ei gynnal yn Eglwys San Steffan yng Nghasnewydd.
Cafodd ei saethu yn ei chefn mewn digwyddiad yn Seabreeze Avenue, Casnewydd ar 8 Awst a chafodd ei gwr, Christopher Parry, 49, hefyd ei anafu. Mae’n parhau i fod mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty. Roedd y cwpl wedi gwahanu.
Mae’r crwner wedi gohirio’r gwrandawiad i’w marwolaeth am dri mis tra bod yr heddlu yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad.
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i’r achos ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod Heddlu Gwent wedi bod mewn cysylltiad â Caroline Parry yn y misoedd cyn y saethu.