William Hague
Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn ystyried pob opsiwn posib ar gyfer Syria pan fydd yn mynd i uwch-gynhadledd y G20 yn Rwsia, meddai’r Ysgrifennydd Tramor William Hague heddiw.
Dywedodd William Hague y byddai’r rhyfel yn Syria yn flaenllaw yn y trafodaethau rhwng y gwledydd ond mai Llywodraeth Rwsia fyddai’n gorfod gosod yr agenda ar gyfer y trafodaethau, sy’n cael eu cynnal yn St Petersburg ar ddydd Iau a Gwener.
Ond ychwanegodd nad oedd problem trafod y mater gyda’r gymuned ryngwladol ond yn hytrach dod i gytundeb ar y ffordd orau o ddatrys yr argyfwng a sefydlu llywodraeth dros dro yn Syria.
Wrth ateb cwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw roedd William Hague hefyd yn feirniadol o lywodraeth Syria am beidio caniatáu cymorth dyngarol rhag cyrraedd ffoaduriaid y wlad.
Dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn cynnal trafodaethau gyda Llywydd y Gynghrair Genedlaethol yn Syria, Ahmad Jarba ddydd Iau, pan fyddan nhw’n trafod be all Prydain ei wneud i geisio achub bywydau.
“Rydym yn cefnogi ymateb rhyngwladol gref i’r defnydd o arfau cemegol yn Syria tra’n parchu barn y Senedd, wrth gwrs,” meddai.
‘Trychineb waetha’r ganrif’
Yn y cyfamser mae nifer y ffoaduriaid o ganlyniad i’r rhyfel yn Syria bellach wedi cyrraedd dros 2 filiwn, yn ôl pennaeth Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig.
Mae cynnydd o bron 1.8 miliwn o bobl wedi bod yn y 12 mis diwethaf, gyda 4.25 miliwn yn ddigartref yn y wlad, sy’n golygu bod y rhyfel wedi gorfodi traean o’r boblogaeth o’u cartrefi. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud mai’r argyfwng yw “trychineb waetha’r ganrif.”
Yn yr Unol Daleithiau, mae’r Arlywydd Barack Obama yn ceisio darbwyllo aelodau’r Gyngres bod angen gweithredu’n filwrol yn Syria.