Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi i gorff dyn ei ddarganfod mewn maes parcio yng nghanol Caerdydd.

Cafodd yr heddlu ac ambiwlans eu galw i faes parcio NCP ger gorsaf drenau canolog y brifddinas y bore ‘ma.

Dywedodd yr Heddlu bod corff dyn wedi cael ei ddarganfod am 8:55yb.

Mae ymchwiliadau’r heddlu yn parhau .