Cyngor Sir Benfro
Fe fydd cynghorwyr Sir Benfro yn trafod cais cynllunio heddiw i adeiladu 729 o dai yn Hwlffordd.
Mae cwmni Conygar, sydd y tu ôl i’r datblygiad, hefyd am weld gorsaf betrol ac archfarchnad Sainsbury’s, gyda maes parcio ar gyfer 541 o geir a 50 o feiciau, yn cael ei adeiladu yn y dref. Dywed y cwmni y bydd canran o’r tai yn rhai fforddiadwy.
Mae adroddiad gan adran gynllunio Cyngor Sir Benfro wedi dweud y byddai’r datblygiad yn dod a budd economaidd a chymdeithasol i’r ardal ac yn adfywio’r dref.
Pryder
Ond nid yw’r Cynghorydd Roy Thomas sy’n aelod o Gyngor Tref Hwlffordd yn cefnogi’r cynllun. Dywedodd bod llawer mwy o gwestiynau i’w hateb cyn mynd ati i adeiladu.
“Bydd y datblygiad yn ychwanegu at broblemau presennol y dref. Mae’n rhaid i ni ddatrys y problemau hynny cyn derbyn cynllun ar gyfer rhywbeth mor fawr,” meddai.
Yn ôl y cynghorydd, mae siopau bach y dref mewn trafferthion yn barod ac ni fydd codi archfarchnad arall yn helpu hynny.
“Mae o’n golygu y bydd pentref arall yn cael ei ychwanegu i’r dref, mewn ffordd a dw i ddim yn credu ein bod yn barod am rywbeth fel yna.
“Rhaid gofyn o ble fydd perchnogion y tai yn dod? Lle fydden nhw’n gweithio? Mae ieuenctid yr ardal yn ei chael hi’n ddigon anodd i ddod o hyd i waith fel y mae hi.”