Mae’n debygol y bydd 30  o gyn-warchodwyr honedig yn Auschwitz yn sefyll eu prawf am droseddau rhyfel y Natsïaid.

Dywedodd Gweinyddiaeth Gyfiawnder Baden-Wuerttemberg yn yr Almaen eu bod nhw wedi cynnal ymchwiliad i 50 o gyn-warchodwyr y gwersyll ac wedi penderfynu cyhuddo 30 ohonyn nhw.

Mae’r erlynwyr yn Ludwigsburg am gyfeirio’r achosion hynny i erlynwyr y wladwriaeth oherwydd na allan nhw ddwyn cyhuddiadau eu hunain.

Daw’r ymchwiliadau newydd i gyn-warchodwyr y gwersylloedd difa yn dilyn achos John Demjanjuk, a fu farw’r llynedd wrth apelio yn erbyn dedfryd a gafodd yn 2011 ynglŷn â honiadau y bu’n gwasanaethu mewn gwersyll difa yn Sobibor.

Fe wnaeth ei achos sefydlu y gallai gwarchodwyr y gwersylloedd difa gael eu dyfarnu’n euog am fod yn rhan o’r llofruddiaethau, hyd yn oed os nad oes unrhyw dystiolaeth benodol yn eu herbyn.