Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi i ddyn farw mewn damwain ffordd yn Wrecsam y bore yma.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ar Ffordd Cefn, Wrecsam, am 6.24yb. Dim ond un cerbyd oedd yn y ddamwain sef Vauxhall Vectra lliw gwyrdd.
Cafodd y gyrrwr, y credir ei fod yn ei 50au, ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam lle cadarnhawyd ei fod wedi marw.
Mae Ffordd Cefn a Ffordd Bedwell wedi cau ar hyn o bryd ac mae traffig yn cael ei ddargyfeirio.
Mae’r Heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad ac mae swyddogion Uned Plismona’r Ffyrdd yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â Pc 450 Aled Jackson yn Uned Plismona’r Ffyrdd, Glannau Dyfrdwy drwy ffonio 101.