Gwesty'r Harbwrfeistr yn Aberaeron
Mae un o westai amlycaf Gorllewin Cymru ar werth am £2.7 miliwn.

Wedi cyfnod o 12 mlynedd ers sefydlu Gwesty’r Harbwrfeistr yn Aberaeron, mae’r perchnogion, Menna a Glyn Heulyn, yn teimlo ei bod hi’n amser i basio’r awenau ymlaen.

Dywed y cwpl eu bod yn awyddus i ganolbwyntio ar eu menter arall, sef bwyty Baravin yn Aberystwyth.

Llwyddiant

Mae Gwesty’r Harbwrfeistr yn gwneud trosiant o £1.7 miliwn y flwyddyn ac yn cyflogi 26 o weithwyr.

“Mae’r breuddwyd wedi ei wireddu ac rydym yn falch o’r cyfan sydd wedi ei greu yma yn Aberaeron a’r effaith ar yr economi leol,” meddai Menna Heulyn.

“Mae twristiaeth yn allweddol i Orllewin Cymru ac mae Gwesty’r Harbwrfeistr wedi bod yn sbardun i Gymry eraill ddechrau busnesau cyffelyb.

“Bydd pwy bynnag fydd yn ei brynu yn etifeddu busnes cryf, llwyddiannus gyda thîm o staff arbennig iawn.”