Mae Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu rhoi gorau i’r swydd ar ôl deng mlynedd.
Dywedodd Aneurin Phillips yn ei fod yn bryd iddo ildio’r awenau.
“Credaf mai dyma’r amser iawn i drosglwyddo’r awenau i rywun arall i gymryd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ei flaen. O’i reoli’n iawn, mae chwistrelliad rheolaidd o wynebau newydd a syniadau newydd yn iach i unrhyw sefydliad.”
Sefydliad Cymreig
Mae Parc Eryri yn un o’r sefydliadau mwyaf Cymreig yng Nghymru, yn enwedig yn y meysydd amgylcheddol a llywodraethol, gyda dros 94% o’r gweithwyr yn Gymry Cymraeg.