Nidal Hasan
Mae llys milwrol yn yr Unol Daleithiau wedi dedfrydu cyn seiciatrydd gyda’r fyddin i farwolaeth ar ôl iddo ladd 13 o bobl ar safle’r fyddin yn Tecsas.
Nidal Hasan fydd y milwr cyntaf yn yr UDA i gael ei ddienyddio am fwy na hanner canrif.
Yn 2009 roedd yr Uwch Gapten Nidal Hasan wedi tanio gwn at filwyr eraill mewn canolfan feddygol ar safle’r fyddin yn Fort Hood gan ladd 13 o bobl ac anafu 30.
Dywedodd Hasan, 42 oed, sy’n Foslem, ei fod wedi ymosod ar y milwyr er mwyn diogelu gwrthryfelwyr Islamaidd yn America a’i fod eisiau bod yn “ferthyr”.
Cafodd Hasan ei saethu yn ei gefn yn ystod yr ymosodiad gan swyddog oedd yn ymateb i’r digwyddiad ac mae bellach wedi ei barlysu.
Bu’r rheithgor yn y llys yn trafod y ddedfryd am fwy na dwy awr ddoe. Roedd yn rhaid iddyn nhw gytuno’n unfrydol ynglŷn â’r gosb eithaf. Yr unig ddedfryd arall oedd carchar am oes heb barôl.
Fe all y broses o apelio yn erbyn y ddedfryd gymryd peth amser ac fe all fod yn rai blynyddoedd cyn ei fod yn cael ei ddienyddio. Yr Arlywydd fyddai’n awdurdodi ei ddienyddiad.