Fe fydd argyfwng Syria yn hawlio sylw Aelodau Seneddol heddiw wrth i’r Senedd ail-ymgynnull i drafod ymateb Prydain i’r ymosodiad arfau cemegol honedig yn Namascus.
Mae ASau wedi cael eu hannog i fod yn unedig yn eu hymateb ar ôl i David Cameron gael ei orfodi i oedi a chaniatáu i arolygwyr arfau’r Cenhedloedd Unedig gwblhau eu gwaith cyn gwneud penderfyniad am unrhyw ymyrraeth gan Brydain.
Mae’r Prif Weinidog wedi derbyn bod angen ail bleidlais yn y Senedd i gefnogi gweithredu milwrol gan y DU yn Syria.
Fe fydd ASau heddiw yn trafod cynnig sy’n cefnogi’r egwyddor o weithredu’n filwrol mewn ymateb i “drosedd yn erbyn dynoliaeth” gan lywodraeth Bashar Assad.
Dywedodd Downing Street nad oedd David Cameron erioed wedi diystyru ail bleidlais, er ei fod yn credu y byddai’n “anodd.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague bod y Llywodraeth wedi gwneud “ymdrech i ystyried pryderon a chwestiynau’r pleidiau eraill” yn ei chynnig a bod gweinidogion yn awyddus i osgoi “mwyafrif bychan” yn y bleidlais ar fater mor bwysig.
Fe fydd cyngor cyfreithiol ynglyn a chymryd camau milwrol yn Syria yn cael ei gyhoeddi bore ma, cyhoeddodd Downing Street.